Skip to [main navigation | secondary navigation | content]
Hill / Bryn
 
Lleoliad:

Newid Hinsawdd

HR Wallingford Group Logo

Roedd yr astudiaeth yn cynnwys asesiad ar effeithiau newid hinsawdd.

Cynnydd yn Lefel y Môr

Mae Defra (2006) yn argymell caniatáu ar gyfer cynnydd yn lefel cymedr y môr ar gyfer arfordir Gogledd Cymru o 3.5, 8.0, 11.5 ac 14.5mm/y flwyddyn ar gyfer y cyfnodau 1990-2025, 2025-2055, 2055-2085 a 2085-2115, yn y drefn honno. Mae lefelau dwr môr a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth hon wedi’u cynyddu yn briodol ar gyfer y cyfnod perthnasol yn y dyfodol. Er enghraifft, i gynrychioli cynnydd yn lefel y môr dros 50 mlynedd (o’i gymharu â 2006) bydd 0.318m yn cael ei ychwanegu at bob lefel môr presennol, neu am 100 mlynedd bydd 0.956m yn cael ei ychwanegu.

Hinsawdd Tonnau – Amrywiaeth Rhyngflynyddol mewn Amodau Tonnau Dwr Dwfn

Mae’r ansicrwydd wrth ragfynegi newid hinsawdd tonnau yn y dyfodol yn rhy fawr i geisio "rhagfynegi" amodau tonnau’r dyfodol. Ond, mae’n ddefnyddiol ystyried amrywiaeth rhyngflynyddol a defnyddio hyn i helpu wrth ystyried senarios hinsawdd tonnau’r dyfodol.

Felly, dadansoddwyd dau set data alltraeth i asesu tuedd (os oedd tuedd) hinsawdd tonnau’r gorffennol. Mae’r set data cyntaf yn cynnwys y cyfnod o fis Ionawr 1970 i fis Ionawr 1993. Mae’r ail yn cynnwys y cyfnod o fis Ionawr 1987 i fis Rhagfyr 2001. Er bod y ddau set data yn gyson, ni ellir eu hystyried fel un oherwydd nad ydynt yn ymwneud ag union yr un lleoliad.

Mae’r dadansoddiad yn cynnwys cyfrifo cyfartaledd uchder tonnau ar gyfer y lefelau 10% ac 1% am gyfnod o 5 mlynedd (credir fod cyfartaledd 5 mlynedd yn unioni’r amrywiaeth flynyddol ac yn tynnu sylw at duedd gwaelodol). Canfuwyd fod yr amrywiaeth naturiol ymysg y blociau data 5 mlynedd yn tua +/- 10%. Felly byddai + 10% yn lwfans sensitifrwydd realistig ar gyfer newid uchder tonnau’r dyfodol (ac felly, + 5% ar gyfnod tonnau i gadw’r un serthrwydd tonnau). Mae hyn rwan hefyd wedi’i argymell yn Defra (2006) fel lwfans sensitifrwydd i newid hinsawdd tonnau posibl yn y dyfodol.

Cyfyngiadau a Gwaith Pellach

Yn yr astudiaeth gwreiddiol, amcangyfrifwyd tebygolrwydd llifogydd mewn 50 mlynedd o amodau hinsawdd i gymharu’r newid presennol a dyfodol mewn risgiau llifogydd, ond ni amcangyfrifwyd meini prawf TAN 15 megis cyflymder llifogydd, cyfradd codi a chyflymder y llif a, ni edrychwyd ar senarios newid hinsawdd eraill chwaith (e.e. tebygolrwydd llifogydd mewn 100 mlynedd o newid hinsawdd). Mae'r mapiau isod yn dangos y senario llifogydd 50 mlynedd o'r astudiaethau gwreiddiol a gynhaliwyd. Yn dilyn ymlaen o'r astudiaethau gwreiddiol a wnaethpwyd ar gyfer Astudiaeth Risg Llifogydd Llanw Conwy, mae gwaith modelu a mapio ychwanegol wedi cael ei wneud ar gyfer yr ardal o Bensarn i Fae Cinmel, gan ystyried 100 mlynedd o newid hinsawdd i lunio mapiau sydd yn cydymffurfio â chanllawiau TAN15 Canllawiau ar reoli risg. Gellir gweld copi pdf o'r adroddiad hwn yn adran 'Adroddiadau a Darluniau HR Wallingford' y wefan hon.



Darluniau



 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Bodlondeb, Conwy, Gogledd Cymru, LL32 8DU.
Ffôn: 01492 574000. Ffacs: 01492 574559. E-bost: gwybodaeth@conwy.gov.uk
Main Website Copyright and Disclaimers| Main Website Data Protection - Freedom of Information