Skip to [main navigation | secondary navigation | content]
Hill / Bryn
 
Lleoliad:

Rhestr Termau a Chwestiynau a Ofynnir yn Aml


Rhestr Termau

  • TAN 15

    Mae TAN 15 yn nodyn cyngor technegol sydd wedi’i gynhyrchu i roi arweiniad technegol i ategu’r polisi a nodwyd ym Mholisi Cynllunio Cymru (PPW), mewn perthynas â datblygu a llifogydd. Mae TAN 15 yn rhoi cyngor ynglyn â datblygu a risg llifogydd ac yn rhoi fframwaith ar gyfer asesu risgiau sy’n deillio o lifogydd afon ac arfordirol, ac o ddwr sy’n llifo o ddatblygiad yn unrhyw leoliad.

  • Asesiad Canlyniadau Llifogydd (FCA)

    Fel y diffiniwyd yn Atodiad 1 TAN 15, asesiad yw FCA fydd yn cael ei gynnal i ddatblygu gwerthfawrogiad llawn o’r canlynol:
    - Effeithiau llifogydd ar ddatblygiad.
    - Effeithiau (h.y. yn gyffredinol) y datblygiad ar risg llifogydd mewn man arall yn yr ardal ar gyfer ystod o senarios llifogydd posibl â thebygolrwydd o 0.1%.
    - Penderfynu a ellir cynnwys mesurau lliniaru priodol wrth gynllunio’r datblygiad i sicrhau fod y datblygiad yn lleihau’r risg i fywyd, difrod i eiddo a tharfu ar bobl sy’n byw ac yn gweithio ar y safle neu mewn man arall cyfagos.


Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

  • Pryd fydd angen i mi gynhyrchu Asesiad Canlyniadau Llifogydd (FCA)*?

    Os yw datblygiad bwriedig mewn parth C1, parth C2 (os yw wedi’i ddiffinio yn ardal gwendid isel) neu barth B (os yw llifogydd wedi’i nodi fel ystyriaeth bwysig yn yr ardal) yn bodloni’r profion cyfiawnhad a nodwyd yn adran 6 TAN 15, bydd angen cynhyrchu FCA er mwyn asesu a ellir rheoli canlyniadau llifogydd ar y datblygiad i lefel dderbyniol. Efallai y bydd rhai achosion (e.e. rhai addasiadau/estyniadau bychain i eiddo), lle na fydd angen FCA ac argymhellir y dylid cael arweiniad gan Asiantaeth yr Amgylchedd cyn cynnal FCA.

    (* - mae’r parthau llifogydd y cyfeiriwyd atynt yn yr ateb yn cyfeirio at barthau datblygu TAN 15; darllenwch adran 'Cyngor Datblygu' y wefan hon i gael rhagor o wybodaeth)


  • Ga i ddefnyddio’r wybodaeth yn Astudiaeth Risg Llifogydd Llanw Conwy i gynhyrchu FCA?

    Cewch, gellir defnyddio llawer o’r wybodaeth yn Astudiaeth Risg Llifogydd Llanw Conwy i helpu i gynhyrchu FCA ar gyfer datblygiadau yn yr ardaloedd astudiaeth risg llifogydd. Er enghraifft, gellir defnyddio’r wybodaeth wrth ystyried y gofynion canlynol sydd wedi’u rhestru yn A1.5 TAN15:
    - Ffynonellau llifogydd tebygol.
    - Dyfnder llifogydd ar y safle.
    - Cyflymder llifogydd i’r safle.
    - Cyfradd codi’r dwr llifogydd ar y safle.
    - Cyflymder llif dwr drwy’r safle.


  • Lle alla i gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad mewn perthynas â chynhyrchu FCA?

    I ddechrau, dylid cysylltu ag Asiantaeth yr Amgylchedd i gael arweiniad mewn perthynas â chynhyrchu FCA.

    Mae canllawiau a gwybodaeth benodol ar gael yn Adran 7 ac Atodiad 1 TAN 15.


  • Ydi mapiau Astudiaeth Risg Llifogydd Llanw Conwy (CTFRS) yn disodli’r Mapiau Cyngor Datblygu (DAM) yn TAN 15?

    Nac ydyn, ond mae Asiantaeth yr Amgylchedd ac Adran Gynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cytuno fod y mapiau CTFRS yn rhai mwy diweddar ac yn rhoi gwybodaeth risg llifogydd cywirach i helpu wrth gynhyrchu FCAs.


  • Oes angen i mi gynhyrchu Asesiad Canlyniadau Llifogydd ar gyfer ystafell haul neu estyniad i eiddo presennol?

    Mae Adran 11.19 TAN 15 yn nodi na ddylai 'ceisiadau am estyniadau neu addasiadau bychain achosi problemau sylweddol os nad ydynt yn debygol o gael effaith uniongyrchol a niweidiol ar gwrs dwr neu ei amddiffynfeydd rhag llifogydd, yn rhwystro mynediad at amddiffynfeydd rhag llifogydd neu gyfleusterau rheoli neu lle gall effaith datblygiadau o’r fath effeithio ar gapasiti storio llifogydd neu lif llifogydd'.

    Cyn cynnal FCA, dylid gofyn am gyngor ac arweiniad gan Asiantaeth yr Amgylchedd.


 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Bodlondeb, Conwy, Gogledd Cymru, LL32 8DU.
Ffôn: 01492 574000. Ffacs: 01492 574559. E-bost: gwybodaeth@conwy.gov.uk
Main Website Copyright and Disclaimers| Main Website Data Protection - Freedom of Information