1. Mae adroddiad Cam 1 yn manylu ar y gwaith a wnaed dan Gam 1 astudiaeth Asesiad Risg Llifogydd Llanw Conwy ac yn darparu gwerthusiad gwyddonol o’r llwytho helaeth ar yr amddiffynfeydd a’u hymateb tebygol o ran gorlifo a methu ar hyn o bryd, gan hefyd ystyried effeithiau newid hinsawdd ar lefelau dwr a thonnau. Cynhyrchwyd y fersiwn ddiweddaraf ym mis Mai 2008.
2. Adroddiad modelu llif Llandudno sy’n rhoi manylion ar y gwaith modelu llif llifogydd a mapio a wnaed ar gyfer Llandudno i lunio mapiau yn unol â chanllawiau Nodyn Cyngor Technegol 15 (TAN 15) ynglyn â risg llifogydd. Lluniwyd y fersiwn ddiweddaraf ym mis Mai 2006.
3. Adroddiad modelu llif Towyn sy’n rhoi manylion am y gwaith modelu llif llifogydd a mapio a wnaed ar gyfer Pensarn i Fae Cinmel i gynhyrchu mapiau yn unol â chanllawiau Nodyn Cyngor Technegol 15 (TAN 15) ar risg llifogydd. Cynhyrchwyd y fersiwn ddiweddaraf ym mis Rhagfyr 2009.
4. Darluniau modelu llif Llandudno o’r gwaith modelu llif llifogydd presennol.
5. Darluniau modelu llif Towyn o’r gwaith modelu llif llifogydd presennol.