|
|
Map Llifogydd Astudiaeth Risg Llifogydd Llanw Conwy
(Nodwch fod yr astudiaeth yn canolbwyntio ar ardaloedd Llandudno a Phensarn i Fae Cinmel yn unig ar hyn o bryd)
Mae’r safle hwn yn defnyddio cwcis i gyflawni rhai swyddogaethau; gweler ein tudalen Preifatrwydd a Chwcis am fwy o wybodaeth.
-
1. Mae’r map dechreuol yn dangos Map Llifogydd Llandudno. Cliciwch ar 'Gweld Map Llifogydd Pensarn i Fae Cinmel' i weld y Map Llifogydd ar gyfer yr ardal hon neu nodwch y cod post a phwyso 'Ewch'.
2. Defnyddiwch y botymau pan a zoom yng nghornel top chwith y ffenestr map i edrych o amgylch y map.
3. Cliciwch ar unrhyw bwynt yn yr ardal sydd mewn glas i weld y tebygolrwydd ar gyfer gwahanol ddyfnder llifogydd (bydd clicio ar ran sydd y tu allan i’r ardal sydd mewn glas yn dangos tabl gwybodaeth gwag).
Sylwer, os ydych yn defnyddio fersiwn 11 neu ddiweddarach o Internet Explorer, efallai y bydd angen i chi alluogi’r gosodiad cydnawsedd er mwyn i’r map weithredu'n gywir. Os nad ydych yn gweld y tabl gwybodaeth,
gwiriwch eich bod wedi galluogi’r gosodiad hwn.
4. Mae’r tabl yn dangos:
i) Y tebygolrwydd y bydd yr ardal yn dioddef llifogydd i unrhyw ddyfnder. Er enghraifft, gall yr ardal ddioddef llifogydd yn amlach na 1 mewn 20 mlynedd.
ii) Y tebygolrwydd y bydd yr ardal yn dioddef llifogydd i ddyfnder o 45cm neu fwy.
iii) Y tebygolrwydd y bydd yr ardal yn dioddef llifogydd i ddyfnder o 60cm neu fwy.
iv) Y tebygolrwydd y bydd yr ardal yn dioddef llifogydd i ddyfnder o leiaf 1m.
Gweler tudalen 'Cyflwyniad i Astudiaeth Risg Llifogydd Llanw Conwy' i gael gwybodaeth am sut y mae’r gwerthoedd hyn yn berthnasol i TAN 15.
-
Mae Mapiau Llifogydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gael am ddim. Er bod pob ymdrech wedi’i wneud i sicrhau eu bod yn gywir ar gyfer eu pwrpas, nid oes sicrwydd wedi’i roi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy mewn perthynas â hyn. Bydd angen i ddefnyddwyr wirio unrhyw wybodaeth yn annibynnol a dylent gymryd cyfrifoldeb am ddibynnu ar yr wybodaeth. Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy na HR Wallingford Ltd. yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled neu ddifrod gan y defnyddiwr nac unrhyw drydydd parti trwy ddefnyddio’r wybodaeth. Mae rhagor o wybodaeth am y Mapiau Llifogydd ar y dudalen Gwybodaeth Gefnogi.
Nodwch, mae’r mapiau hyn wedi’u cynhyrchu diolch i Arolwg Ordnans yn unol â’u cytundeb trwydded OpenSpace. Yn benodol, gallwch argraffu hyd at ddeg copi papur o’r sgrin, mewn maint sydd ddim mwy nag A4 (625cm sgwâr).
|
|
|
|