Skip to [main navigation | secondary navigation | content]
Hill / Bryn
 
Lleoliad:

Cyngor Datblygu

Nodyn Cyngor Technegol 15 (TAN 15) – Datblygu a Risg Llifogydd

Cyflwyniad

Fel rhan o’u dyletswyddau rheoleiddio, bydd angen i’r awdurdod cynllunio fod yn fodlon fod cynnig i ddatblygu wedi’i gyfiawnhau a bod canlyniadau llifogydd yn dderbyniol.

Mae TAN 15 yn nodyn cyngor technegol a gynhyrchwyd i roi canllawiau technegol i ategu’r polisi a nodwyd ym Mholisi Cynllunio Cymru, mewn perthynas â datblygu a llifogydd. Mae TAN 15 yn rhoi cyngor ar ddatblygu a risg llifogydd, ac yn rhoi fframwaith ar gyfer asesu risgiau sy’n deillio o lifogydd afon ac arfordirol a llif dwr o ddatblygiadau yn unrhyw leoliad.

Agwedd gyffredinol Polisi Cynllunio Cymru a TAN 15 yw cynghori i gymryd pwyll mewn perthynas â datblygiad newydd mewn ardaloedd sydd â risg uchel o ddioddef llifogydd trwy osod fframwaith rhagofalus mewn perthynas â phenderfyniadau cynllunio. Prif nod y fframwaith rhagofalus (yn nhrefn blaenoriaeth), yw:

1. Cyfeirio datblygiadau newydd oddi wrth yr ardaloedd sydd mewn perygl mawr o ddioddef llifogydd.

2. Os oes angen ystyried datblygiadau mewn ardaloedd risg uchel (parth C) dim ond y datblygiadau y gellir eu cyfiawnhau ar sail profion (a amlinellwyd yn adrannau 6 a 7 TAN 15), y gellir eu lleoli mewn ardaloedd o’r fath.

Parthau Cyngor Datblygu

Mae TAN 15 yn cynnwys map cyngor datblygu. Mae tri pharth cyngor datblygu (A, B, C) wedi’u disgrifio ar y mapiau, sy’n berthnasol i wahanol weithredoedd cynllunio. Mae ardaloedd Parth A a B yn ardaloedd risg cymharol isel (h.y. y tu allan i’r brif ardal llifogydd afon). Mae Parth C yn cynrychioli’r llinell llifogydd eithafol (sy’n gyfartal â neu’n fwy na 0.1% risg llifogydd), ac wedi’i rannu ymhellach i ddau barth, C1 ac C2.

Parth C1: disgrifiwyd fel "ardaloedd llifogydd sydd wedi’u datblygu ac sy’n cael eu gwasanaethu gan isadeiledd sylweddol, gan gynnwys amddiffynfeydd rhag llifogydd".

Parth C2: disgrifiwyd fel "ardaloedd llifogydd heb amddiffynfeydd sylweddol rhag llifogydd ".

Natur y Datblygiad neu Ddefnydd Tir

Oherwydd nad yw canlyniadau llifogydd penodol yn dderbyniol ar gyfer mathau penodol o ddatblygiad, e.e. caniatáu datblygiad preswyl mewn ardaloedd sydd â risg uchel o ddioddef llifogydd, mae’r fframwaith rhagofalus yn nodi pa mor debygol yw defnyddiau tir o ddioddef llifogydd trwy isrannu’r defnydd tir yn dri chategori:

1. Gwasanaethau Brys gan gynnwys ysbytai, ambiwlans / tân / heddlu / gorsafoedd gwylwyr y glannau, canolfannau gorchymyn, depos argyfwng, adeiladau a ddefnyddir i roi cysgod brys os oes llifogydd.

2. Datblygiadau bregus iawn gan gynnwys pob eiddo preswyl (gan gynnwys gwestai a pharciau carafannau), adeiladau cyhoeddus (e.e. ysgolion, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden), yn enwedig datblygiadau diwydiannol bregus (e.e. gorsafoedd pwer, ffatrïoedd cemegol, llosgyddion), safleoedd gwastraff.

3. Datblygiadau llai bregus gan gynnwys datblygiadau diwydiannol, cyflogaeth, masnachol ac adwerthu cyffredinol, isadeiledd cludiant a gwasanaethau, meysydd parcio, safleoedd echdynnu mwynau a chyfleusterau prosesu cysylltiol, ac eithrio safleoedd gwastraff.

Cyfiawnhau lleoliad y datblygiad (Adran 6)

Mae adran 6 TAN 15 yn rhoi manylion ynglyn â chyfiawnhau datblygiadau newydd ym mharthau C1 ac C2.

Mae TAN 15 yn nodi: 'dylid cyfeirio datblygiad newydd oddi wrth parth C a thua tir addas ym mharth A, neu barth B, lle bydd llifogydd afon ac arfordirol yn llai o broblem'.
'...ni ddylid caniatáu datblygiad bregus iawn a Gwasanaethau Brys ym mharth C2. Dylid caniatáu pob datblygiad newydd arall dim ond ym mharthau C1 ac C2 os yw’r pwyllgor cynllunio yn credu eu bod yn addas i’r lleoliad hwnnw’.

Asesu Canlyniadau Llifogydd (Adran 7)

Mae cynnig datblygu yn bodloni’r profion a nodwyd yn adran 6 TAN 15, a bydd y cyfiawnhad yn ystyried y ffaith y bydd y datblygiadau yn dioddef llifogydd ac y bydd angen cynllunio yn unol â hyn.

Bydd symud ymlaen gyda datblygiad yn dibynnu ar a ellir rheoli canlyniadau llifogydd y datblygiad i lefel dderbyniol.

Mae manylion pellach am yr asesiad canlyniadau llifogydd yn Adran 7 ac Atodiad 1 TAN 15.

Cynnal Asesiadau Canlyniad Llifogydd

Nodwyd yn TAN 15 mai’r 'Cam cyntaf wrth gynnal asesiad (canlyniadau llifogydd) yw y dylai’r datblygwyr ymgynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd am amcanion yr asesiad'. .

Mae Atodiad 1 TAN 15 yn rhoi canllawiau pellach am yr hyn sydd ei angen wrth gynhyrchu Asesiad Risg Llifogydd.


Sut y mae’r astudiaeth yn berthnasol i TAN 15

Mae TAN 15 (gweler isod) yn rhoi canllawiau ar amlder trothwy ac amodau goddefol y gwahanol fathau o ddatblygiad. Mae Tabl 1 yn dangos yr Amlder Trothwy isaf ar gyfer caniatáu llifogydd mewn datblygiad. Er enghraifft, dylid cynllunio datblygiadau preswyl i beidio dioddef llifogydd mewn llifogydd afon 1% a/neu lifogydd llanw/arfordirol 0.5%. Os bydd safle datblygu yn pasio’r meini prawf yn Nhabl 1, mae’n rhaid iddo hefyd fodloni’r meini prawf canlynol yn Nhabl 2 ar gyfer digwyddiadau eithafol.

Yn seiliedig ar Tabl 2, mae’r paramedrau canlynol wedi’u hamcangyfrif gan ddefnyddio canlyniadau’r modelu rhifol a gynhaliwyd dan yr astudiaeth hon:

- Uchafswm dyfnder llifogydd;
- Uchafswm cyfradd codi’r dwr;
- Amser cyrraedd y llifogydd (cyflymder y llif);
- Uchafswm cyflymder llifogydd.

Mae tabl 3 yn dangos y berthynas rhwng y rhagamcan tebygolrwydd llifogydd a ddangoswyd ar y mapiau a’r meini prawf TAN 15 a nodwyd yn nhabl 1 a’u cysylltu â’r cyfnod bras perthnasol.

Dechreuodd yr astudiaeth yn 2002 ac mae wedi’i ailadrodd sawl gwaith ers hynny. Y prif ddeilliannau yw’r adroddiadau y gellir eu lawr lwytho o ‘Adroddiad a Darluniau HR Wallingford’. Mae’r mapiau TAN 15 a gynhyrchwyd yn darparu dosbarthiad gofodol tebygolrwydd llifogydd gan ystyried amodau llwytho (h.y. lefelau tonnau a dwr ar y cyd), cyflwr a geometreg yr amddiffynfeydd a’r lefelau cefnwlad. Maent hefyd yn dangos ystod llifogydd mwy realistig na’r terfyn IFM sy’n goramcangyfrif yn sylweddol. Gall y mapiau helpu staff yr adran gynllunio i wneud penderfyniadau am ganiatâd cynllunio yn gyflymach ac yn gywirach. Gallant hefyd roi canllawiau cyffredinol i’r cyhoedd ar debygolrwydd llifogydd. Y bwriad yw y bydd yr astudiaeth yn cael ei gwirio / diweddaru bob pum mlynedd.



  • TAN 15 Tabl 1: Canllawiau ar amlder trothwy gwahanol fathau o ddatblygiad

    Mae hwn yn berthnasol i fywyd cyfan y datblygiad.

    Math o ddatblygiad Amlder Trothwy
    Afon Llanw
    Preswyl 1% 0.5%
    Masnachol / Adwerthu 1% 0.5%
    Diwydiannol 1% 0.5%
    Gwasanaethau Brys 0.1% 0.1%
    Isadeiledd Cyffredinol 1% 0.5%


  • TAN 15 Tabl 2: Canllawiau ar Amodau Goddefol

    Math o ddatblygiad Dyfnder mwyaf y llifogydd (mm) Cyfradd codi mwyaf y dwr llifogydd (m/hr) Amser cyrraedd yr Ardal Risg Llifogydd (awr)
    PRESWYL (Ystafelloedd addas) Eiddo 600 0.1 4
    Mynediad 600
    MASNACHOL AC ADWERTHU Eiddo 600 0.3 2
    Mynediad 600
    DIWYDIANNOL Eiddo 1000 0.3 2
    Mynediad 1000
    GWASANAETHAU BRYS Eiddo 450 0.1 4
    Mynediad 600
    ISADEILEDD CYFFREDINOL Eiddo 600 0.3 2
    Mynediad 600


  • Tabl 3: Y berthynas rhwng tebygolrwydd llifogydd a Meini Prawf TAN 15

    Tebygolrwydd Llifogydd Meini Prawf TAN 15 Cyfnod Canlyniadau (Blynyddoedd)
    0.01 1% 100
    0.005 0.5% 200
    0.001 0.1% 1000


 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Bodlondeb, Conwy, Gogledd Cymru, LL32 8DU.
Ffôn: 01492 574000. Ffacs: 01492 574559. E-bost: gwybodaeth@conwy.gov.uk
Main Website Copyright and Disclaimers| Main Website Data Protection - Freedom of Information