Mae’r ardaloedd a nodwyd i’w harchwilio yn yr astudiaeth wedi’u hamddiffyn gan mwyaf, ond nid yn gyfan gwbl, gan yr amddiffynfeydd arfordirol ac afon helaeth. Mae’n arbennig o berthnasol i nodi fod llawer o’r amddiffynfeydd sy’n gysylltiedig â’r ardaloedd dan sylw wedi’u hailadeiladu yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, gyda gwelliannau cysylltiol yn eu Safon Diogelu.
I ddechrau, nodwyd y pedair ardal canlynol i’w harchwilio:
- Pensarn i Fae Cinmel (gan gynnwys arglawdd gorllewinol Afon Clwyd);
- Bae Penrhyn/Llandrillo yn Rhos;
- Traeth y Gogledd Llandudno;
- Penmorfa Llandudno.
Ychwanegwyd y canlynol yn ddiweddarach:
- Deganwy;
- Cei Conwy;
- Glan Conwy.
Mae terfyn yr ardaloedd astudiaeth tua’r tir wedi’i ddisgrifio gan Fapiau Lleiniau Llifogydd Asiantaeth yr Amgylchedd 2001 ac wedi’i nodi yn y mapiau canlynol:
- Traeth y Gogledd a Phenmorfa Llandudno
- Pensarn i Fae Cinmel